Mae’m 12 diwrnod cyn etholiad Ewrop ac mae’r ymgyrch yn dawel o hyd. Erbyn hyn mae’r brif pleidiau wedi lansio eu maniffestos, gyda Plaid yn lansio ar Fai 14.
Mae pob un plaid wedi cofrestru 4 ymgeisydd er bod yn anhebygol iawn bydd 4 o un plaid yn cael eu ethol. O achos system etholiadol, ac o achos bod dim ond 4 o ASEau yn cynrychioli Cymru mae’n anhebygol bydd y pleidiau llai yn enill. Yn ol canlyniadau blaenorol bydd un sedd yr un gyda Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru – pwy sy’n cael sedd rhyf 4 yw’r cwestiwn. Mae Llafur mewn trafferth ac os maen nhw’n methu cael y nifer uchaf o bleidleisiau, amen nhw’n colli’r 4 sedd. Hyd yn oed os bydd Llafur yn ennill y nifer uchaf o bleidleisiau mae’n bosib bydd y 4 sedd yn mynd i blaid arall.
Dylai’r ymgyrch fod ambyti pwy sydd gyda’r polisiau gorau a pha ymgeiswyr sy’n gallu ein cynrychioli ni orau ym Mrwssel a Strasbourg. Mae taflen Llafur yn son llawer am beth mae llafur wedi cyflawni
ond does dim un o’u ASEau o Gymru yn sefyll y tro hwn. Mae’r Cediwadwyr yn sefyll am “newid” ond mae 3 allan o’r 4 ymgeisydd yn byw tu allan i Gymru. Dyw hyn ddim byd i’w wneud a os ydynt yn “ddigon Cymreig” – does dim ots ‘da fi o ble mae;r ymgeiswyr yn dod – ond bydd yn anodd i rywun gynrychioli gwald yn Ewrop os nyd ydyn yn byw yno. Mae ymateb y Ceidwadwyr yn dangos bod nhw’n poeni am hyn. Mae taflenni UKIP a’r BNP yn canolbwyntio as ddweud “Na” i bobeth a dw i heb glywed unrhywbeth oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol
i gymharu a hyn i gyd mae gan Blaid cymru dau ymgeisydd profiadol. Mae Jill Evans ac Eurig Wyn wedo bod yn Aelodau Seneddol Ewropeaidd o’r blaen ac mae Ioan Bellin a Natasha Asghar, sydd hefyd ar y rhestr wedi bod yn ymgyrchu yn galed. Ar Fai 20, lansiodd y Blaid Addewid i Weithwyr yn TUC Cymru
Cryfhau’r Gyfarwyddeb Gweithwyr a Symudwyd i warantu hawliau cyfartal i weithwyr yn yr un gweithle.
Cyfarwyddeb Oriau Gwaith sy’n sicrhau iechyd a diogelwch pob gweithiwr
Fframwaith mwy effeithiol i hysbysu gweithwyr ac ymgynghori â hwy
Gweithredu’r Gyfarwyddeb Ansolfedd yn iawn i warchod pensiynau
Rhaglen newydd o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus i amddiffyn swyddi yn y sector cyhoeddus
Mae Maniffesto’r Blaid yn broffesiynol ac yn gadarnhaol. Dw i ddim am fynd trwy’r holl beth ond dyma rhai o’r brif bwyntiau
Dod Drwy’r Storm
Byddwn yn ymgyrchu am arian Ewropeaidd tuag at ddatblygu system gludiant cyhoeddus fodern i Gymru, gyda chysylltiadau rheilffordd cyflym a rhatach rhwng y de a’r gogledd, y canolbarth a’r gorllewin….Cred Plaid Cymru fod yn rhaid i gysylltu Cymru’r unfed ganrif ar hugain â chyfandir Ewrop fod yn flaenoriaeth yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, nid yn unig o ran darparu gwasanaethau trên cyflymder-uchel gwell, modern a thrydan ar draws Cymru gyfan, ond hefyd mewn mesurau newydd i helpu cwmnïau cludiant Cymreig i oroesi’r wasgfa conomaidd. Rhaid creu cysylltiadau cryf rhwng Cymru ac Ewrop, nid yn unig mewn trafnidiaeth, ond hefyd mewn technoleg. Yr ydym yn cefnogi argymhellion diweddar i wneud mynediad at fand eang yn oblygiad gwasanaeth cyffredinol, ac yr ydym eisiau gweld pob cymuned yng Nghymru yn gallu cyrchu cyflymderau band eang o 8Mbps o leiaf.Pobl Cyn Elw
Byddwn yn cefnogi gwell amddiffyniad yn erbyn diswyddo neu erlid gweithwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithredu cyfreithlon; byddwn hefyd yn cefnogi gweithredu sy’n atal defnyddio gweithwyr asiantaeth yn lle gweithwyr sy’n streicio.Gwarchod ein Dyfodol
Yr ydym wedi llwyr ymrwymo i sicrhau rheolaeth Gymreig dros ein hadnoddau ynni ac i greu Cronfa Gyfoeth Sofran – credwn i Gymru ddioddef camfanteisio yn y gorffennol a bod yn rhaid i ni atal hynny rhag digwydd eto.Gweledigaeth Leol Gref
Cred Plaid Cymru fod Swyddfeydd Post yn wasanaeth hanfodol i’r gymdeithas ac yn hanfodol o ran llunio cymunedau cynaliadwy yng Nghymru…. Byddwn ni yn cefnogi adolygu’r rheolau cystadleuaeth, a thrwy hynny adael i’n gwasanaethau lleol gwerthfawr oroesi.Yr ydym yn cefnogi diwygio modern a thymor hir ar y PAC sydd yn cydnabod cynhyrchu bwyd dan reolaeth amgylcheddol dda, cynnal cymunedau gwledig cynaliadwy, a safonau uchel o les anifeiliaid a rheoli ansawdd.
Gwell Byd
Fel Cenedl Fasnach Deg gyntaf y byd, rhaid i Gymru arwain yr alwad am Ewrop Fasnach Deg, gan wthio egwyddorion tegwch, cyfiawnder cymdeithasol a safonau amgylcheddol uchel.
Y darn pwysicaf yw’r addewid isod:
Rydym yn addo y byddwn yn wastad yn ymgyrchu dros Gymru – a holl bobl Cymru – yn Ewrop. Rydym yma i chi.
Os ydych chi’n cefnogi ymgeiswyr sy’n wir ddeall anghenion pobl cymru, gallwch cofrestru eich cefnogaeth fan hyn, a lawllwtho poster fan hyn.
Filed under: Pyst Cymraeg | Tagged: Etholiad Ewrop, Plaid Cymru


