Fel mae’r byd yn troi mae cwmniau gydag egwyddorion yn gwerthu allan. Roedd yn siom glywed wythnos diwethaf fod Innocent Smoothies wedi gwerthu canran o’r cwmni i Coca Cola ond ddim yn syndod mawr. Mae Innocent wedi mynd yr un ffordd a Green and Blacks a’r Body Shop. Nawr mae’r cwmniau egwyddorol hyn yn rhan o gwmniau sydd ddim yn cyd-fynd a’u egwyddorion gwreiddiol.
Yn ol Richard Reid, un o sylfaenwyr y cwmni ni fydd y newid yn cael unrhwy effaith ar egwyddorion y cwmni
“Every promise that Innocent has made – about making only natural healthy products, pioneering the use of better, socially and environmentally-aware ingredients, packaging and production techniques, donating money to charity and having a point of view on the world – will remain.”
Yn fy mhrofiad i mae egwyddorion yn cyd fynd yn iawn gyda chwmniau bach ond yn eistedd yn anghyfuddus o fewn cwmniau mawr lle mae rheolwyr yn atebol i cyfrandalwyr sydd yn gwmniau neu cronfeydd yn hytrach na phobl.
Ond efallai mae yn bosib i egwyddorion cwmni bach, llwyddiannus gael effaith ar gwmni mawr – os gallent weld buddiannau ariannol. Er oedd Cadbury wedi gwrthwynebu egwyddor Masnach Deg pan cymerant Green & Blacks drosodd erbyn hyn mae gyda nhw cytundebau Masnach Deg eu hunain. Dw i fawr yn gobiethio bydd Innocent yn cael yr un fath o effaith ar Cocal Cola ond os ydy’r honiadau yn y llyfr Pop yn wir, mae ‘na llawer i’w newid.
Filed under: Pyst Cymraeg | Tagged: Egwyddorion Busnes, Innocent Smoothies, Masnach Deg


