Cae Fynnonbedr

Rydym yn disgwyl llythyr swyddogol o’r Cyngor Sir yn cynnig les 3 blynedd ar hen caeau chwarae Ffynnonbedr ar ol penderfyniad y Cabinet. Bwriad y cyngor tref yw cadw’r cae fel ardal cymunedol ond yn ol adroddiad yn y Cambrian News wythnos hon bwriad y Cyngor Sir yw datblygu’r cae ar gyfer tai yn y tymor hir.

Cyn bod unrhyw datblygiad o’r fath bydd yn rhaid gynnwys y safle yn y Cynllun Datblygu Lleol ac rwy’n siwr bydd y Cyngor Tref yn gwrthwynebu unrhyw cynnig i ddynodi’r tir ar gyfer codi tai. Rwy wedi ysgrifennu nifer o weithiau ar bwysigrwydd codi tai fforddiadwy yn y dref ond rwy’n awyddus i’r ardal hon, neu rhan sylweddol ohoni aros yn dir agored. Statws yr hen caeau chwarae oedd brif pwnc trigolion yr ardal adeg etholiad y cyngor y llynedd ac rwy’n siwr fod pob ymgeisydd aeth yno wedi cael argraff cryf o’r teimlad lleol. Mae’r mater yn sir o godi naill ai yng nghyfarfod cyllideb y cyngor wythnos hon neu yn y cyfarfod arferol ar ddiwedd y mis.

Leave a Reply

You must be logged in to post a comment.