Daeth effeithiau argyfwng bancio i Geredigion heddiw wrth i’r cyngor sir cyhoeddi fod £5.5m ym manciau Gwlad yr Ia sydd wedi methu. Mae hyn yn newyddion gwael i drigolion y sir, a siroedd eraill ar draws Cymru a oedd wedi buddsoddi yn y banciau.
Mae rhai siwr o fod yn mynd i holi pam oedd £5.5m gan Geredigion yn y banc tra bod y sir yn gwneud torriadau ond mae sywadau felly yn gorsymyleiddio’r sefyllfa. Mae gwariant y cyngor yn digwydd trwy’r flwyddyn ac mae’n rhad cadw’r arian yn rhywle. Mae ddyetswydd ar awdurdodau gadw rhywfaint o arian ar ol ar gyfer argyfyngiadau. Mae’n gwneud synnwyr i fuddsoddi’r arian lle bydd yn enill llog fydd yn olygu yn y pen draw fod treth y cyngor yn mynd ymhellach. Mae Cardis yn enwog am fod yn ofalus gydag arian ac nid yw’r sefyllfa hon yn wahanol o gwbl. Yn ol Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru roedd y banciau wedi nodi fel buddsoddiad diogel hyd wythnos yn ol.
Y bwgan yn y mater yn i gyd yw’r bancwyr sydd wedi profi eu bod yn hollol anghyfrifol. Ac yn ail mae llywodraeth San Steffan. Roedd yn ddigon hawdd ffindio £50bn i helpu banciau ar ddydd Llun ond nid oes arian ar ol ar gyfer ein cynghorau lleol. Digon i sicrhau fod y champaigne yn llifo o hyd yn y ddinas ond dim byd wasanaethau cymdeithasol. Nawr rwy’n derbyn fod system bancio sy’n gweithio er lles i ni gyd (i ryw raddau ta beth), ond yn yr achos hyn mae’r llywodraeth wedi gwobrwyo cwmniau oedd wedi bihafio mewn modd anghyfrifol iawn – ac mae’r cyfranddalwyr, cyfarwyddwyr a’r uwch reolwyr i gyd yn cario ymlaen ar arian y drethdalwyr. Ond, pan fydd cynghorau fel Ceredigion yn gwynebu colli £5.5m am ddilyn canllawiau’r Trysorlys, does dim digon o arian ar ol i helpu.
Filed under: Pyst Cymraeg | Tagged: Banciau Gwlad yr Ia, Credit Crunch, Cyngor sir Ceredgion


