Y Diwydiant Rhyfel

Ar ol bod yng ngynhadledd undeb yn Torquay, penderfynnais ysgrifennu at lywodraeth San Steffan ynglyn a byddinoedd preifat. Roeddwn i’n siarad a’r person ar stondyn yr elusen War on Want am rywbeth hollol wahanol pan welais wybodaeth am fyddinoedd preifat ym Mhydain. Roedd yn syndod mawr i mi ddarganfod fod Prydain yn ganolfan byd-eang i Gwmnïau Diogelwch a Milwrol Preifat (Byddinoedd preifat i bob pwrpas) a’u bod yn cael gweithio heb oruchwyliaeth gan yr awdurdodau. Ers Rhyfel Irac mae’r cwmnïau (sy’n cael eu cyfeirio atynt yn y cyfryngau fel ‘contractwyr’ yn y cyfryngau) wedi gwneud ffortiwn allan o ladd. Yn ôl taflen gan War on Want enillodd Cwmnïau Militarydd Prydain mwy na £1.8bn yn 2004.

I fi, mae’n wirion fod angen trwydded i werthu Brains SA ond nid i recriwtio byddin breifat, felly codais gerdyn post o’r stondyn a’u anfon at y gweinidog perthnasol. Derbyniais i lythyr yn esbonio fod y sefyllfa yn ‘anodd’ ond roedd y llywodraeth wedi gwneud arolwyg o’r sefyllfa…

‘The review…considered a number of ways forward, including self regulation through a trade association, national regulation based on export controls, and national regulation based on a company licensing system. We have also considered international regulation on the basis of common internatioal values and norms. However, the review, and subsequent analysis, has also highlighted difficulties with regard to implementation or enforcement, with respect to each of the options’

Ydy’r bobl ‘mha yn byw ar yr un blaned? Hunan reoli?! Mae’r ffaith fod y llywodraeth yn cymryd mwy o diddodeb yn dy fusnes os wyt ti’n codi garej na rhedeg byddin breifat yn anghredadwy.

Leave a Reply

You must be logged in to post a comment.