Mae grŵp Transition Llambed yn symud yn ei flaen. Roeddwn i mewn cyfarfod nos Lun ac roedd llawer wedi digwydd. I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â’r grŵp mae’n treio codi ymwybyddiaeth o’r ffordd mae ein cymdeithas ni yn or-ddibynnol ar olew ac yn yr amgylchiadau presennol mae’r neges ‘na yn berthnasol iawn. Mae’r mudiad wedi cael cefnogaeth Cyngor y Dref a Menter Llambed.
Mae nifer o ddatblygiadau diddorol ar y gorwel gan gynnwys datblygu arian lleol er mwyn cadw mwy o fasnach o fwn yr ardal. Ond y prif ddatblygiad nos Lun oedd cynllunio cwdyn cotwm arbennig i Lambed. Mae Mel (sy’n aelod gweithgar iawn) wedi bod o gwmpas yn gwerthu’r syniad i siopau yn y dref a delio a chynhyrchwr yn y Trallwng. Y bwriad yw i siopau lleol werthu’r cwdyn yma er mwyn lleihâi defnydd o gwdinau plastic (sy’n arbed olew) ac i hyrwyddo Llambed fel canolfan siopa ar yr un pryd. Mae angen archebu dros 1,000 o fagiau er mwyn cael pris rhesymol felly nid yw’n rhywbeth gall rhai o fusnesau’r dref wneud yn annibynnol.
Fydd hi ddim yn hawdd cael pawb allan o’r arfer o ddefnyddio bagiau plastig; maen nhw’n handi iawn wrth fynd i’r siop. Ond rwy wedi ffindio ‘mod i’n defnyddio llawer llai o fagiau plastig ers cael 2 bag mawr o Farchnad y Ffermwyr. Buasai hi’n braf i ni fel tref gael gwared â bagiau plastig yn llwyr ond nid yw’r fath ‘na o rym gyda ni – bydd yn rhaid i rywbeth ddigwydd yn y Cynulliad ond wrth wneud camau bach gallwn wneud gwahaniaeth.
Rhaid i Mel gael cydnabyddiaeth am ei gwaith caled yma. Gobeithio bydd llwyddiant Cwdyn Llambed yn gosod sylfaen i brosiectau mwy fel datblygu arian lleol ac yn arwain at droi Llambed yn esiampl o ymarfer da i drefi eraill sydd am ddatblygu’n gynaliadwy.
Filed under: Pyst Cymraeg | Tagged: Bagiau Plastig, Olew, Transition Llambed


