Cyfarfod Blynyddol y Pwll Nofio

Ar nos Lun diwethaf roedd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Pwll Nofio Llambed. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i’r pwll nofio gyda thoriadau yn y gyllideb a hen beirianwaith yn dechrau mynd yn annibynadwy. Roedd yn rhaid inni gau’r pwll am ychydig ym mis Ebrill ond gyda rhywfaint o waith mae’r pwll ar agor eto. Sut bynnag, nid yw’r problemau drosodd. Mae angen arian sylweddol arnom i wneud y gwaith i gyd sy’n angenrheidiol i gadw’r pwll ar agor yn y tymor byr.

Felly roedd yn dda fod crowd da wedi dod i’r cyfarfod gyda rhai ohonynt yn fodlon rhoi eu henwau ymlaen i fod ar y bwrdd a’n helpu i ddatrys y problemau. Ymunodd y Cyng. Cecilia Barton â’r bwrdd fel un o gynrychiolwyr y Cyngor Tref. Etholwyd un aelod newydd i’r bwrdd a phenodwyd Fiona Hughes, cynghorydd sir newydd Llanybydder fel trysorydd. Mae hyn yn dod a gwaed newydd, mwy o egni a syniadau ffres i’r bwrdd a gobeithio bydd yn helpu gwella’n perthynas gyda sir Gaerfyrddin sydd wedi bod dan straen yn ddiweddar. Yn y cyfarfod wedyn ail-etholwyd Ivor Williams yn gadeirydd y bwrdd, a Jane Norris-Hill fel ysgrifennydd y cwmni dros dro. Ces i fy ethol fel is-gadeirydd. Rwy’n rhagweld fod blwyddyn brysur o’n blaenau.

Leave a Reply

You must be logged in to post a comment.