Mae ‘na erthygl yn y Western Mail heddiw am y problemau ym Mhrifysgol Cymru Llambed. Yn ôl yr adroddiad nid yw HEFCW yn fodlon a rhai o agweddau rheoli’r brifysgol ac maen nhw wedi comisiynu ymgynghorwyr i baratoi adroddiad ac i argymell newidiadau. Mae’r brifysgol wedi tynnu sylw at nifer o ffactorau positif fel ei chyfraniad i’r economi lleol a’i statws fel canolfan ymchwil. Yn wir derbyniodd Adran y Gymraeg adroddiad positif iawn y llynedd.
Mae iechyd economi Llambed yn ddibynnol ar lwyddiant y brifysgol. Mae’r brifysgol wedi dangos parodrwydd i weithio gyda’r gymuned ac mae hyn wedi bod o les i’r sefydliad ac i’r dref. Mae’r ymgynghorwyr wedi dweud yn barod nid yw cau neu symud y brifysgol ar yr agenda ond yn y sefyllfa bresennol rhaid inni weithio gyda’n gilydd i helpu’r brifysgol a diogelu ei dyfodol. Heb y brifysgol byddai Llambed yn dioddef yn sylweddol.
Filed under: Pyst Cymraeg | Tagged: Prifysgol cymru Llambed


