I’m moving!

This blog is moving from today. The new URL is http://llambed.wordpress.com/

Dwi’n symyd!

Mae’r blog yn symyd o heddiw ymlaen. Y cyfeiriad newydd yw: http://llambed.wordpress.com/

Saturday

This weekend has been rather busy. On Saturday morning I was out on Harford Square with Haydn distributing leaflets and speaking to people about the Europwan Elections on Thursday. The atmosphere was far more positive than I was expecting with a number of people stopping to talk and ask questions – mainly about the voting system. There were strong feeling about MP’s expenses but contrary to what some parts of the media have been saying, people seem to recognise that not all MP’s have been playing the system. There were a large number of visitors in town, with quite a few from other parts of Wales. As Wales is one constituency for European purposes, the usual problem we face in Lampeter (where half of those in town on Saturday live in Carmarthenshire) did not arise. There were a few who said that they weren’t going to vote, which is always dissppointing.

Earlier in the week I’d been out canvassing with Penri James. We received a similarly warm reception, with people really beliving that Plaid can win an additional seat on Thursday.

In the evening I attended a Transition Llambed event. Over 50 people came to watch a film on climate change called The Age of Stupid, which looks back on the present from a desolate future. It was a different type of film to Al Gore’s An inconvenient Truth and I found a it a bit negative. Gore was careful to give a message of hope that we could change. But it was still an interesting and thought provoking film.

After the film, Elin Jones AM and I took part in a panel discussion with the audience. We hadn’t been given the questions beforehand and as always with this type of thing, I thought of some good answers but a bit too late to use them! One person asked when politicians would reach a tipping point and start to act, while another asked what changes were needed in the system to deal with the environmental crisis. I mentioned the Lampeter recycling bins which have so far taken 18 months as an example of the inertia in the system while Elin talked about the difficulty of politicans acting when neccesarry measures are unpopular with the voters. After all, we do have to get elected!

There was also quite a discussion on the planning system with some wanting to make it more difficult for local people to object to developments, adopting a “war footing” and giving more freedom to government to act quickly and without so much reference back to the voters. Elsie Dafis spoke of the importance of a democratic and accountable system while Elin went into some of the negative consequences that could result from these types of changes. The discussion went on for about 45 minutes, and ended with a question on what would we change if we had a magic wand to solve the environmental problem. Elin wanted people to shop, think and act locally, while I wanted to educate people so that they would change their behavious, pressure neighbours, government and business to make the changes.

It was the first time I’d been involved in such a discussion, and it was an interesting and challenging experience. Of course, given that the audience all share the same interest in envirionmental matters, it was not quite like an average question time but it was an interesting and useful event. I’d like to thank Tranisiton Llambed for the opportunity to take part.

Dydd Sadwrn

Mae’r penwythnos wedi bod yn un prysur. Bore dydd Sadwrn roeddwn i allan ar Sgwar Harford gyda Haydn yn dosbarthu taflenni ar gyfer etholiad Ewrop ar ddydd Iau. Yn wahanol i beth roeddwn i’n disgwyl roedd pobl yn ddigon fodlon i stopio gyda nifer yn holi am y system pleidleisio. Roedd teimlad cryf am gostau Aelodau Seneddol, ond bawb oedd wedi stopio i siarad yn nodi nid pob aelod seneddol yn cymryd mantais o’r system.
Roedd nifer o ymwelwyr yn y dref, a llawer iawn o ardaloedd eraill yng Nghymru. Gyda Chymru yn un sedd etholiadol, nid oedd y broblem aferol (sef bod llawer o siopwyr Llambed ar fore Sadwrn yn byw yn Sir Gaerfyrddin) ddim yn codi.
Yn gynharach yn yr wythnos roeddwn i wedi bod allan gyda Penri James yn canfasio. Cawsom ni ymateb tebyg iawn. Roedd llawer yn son am y bosibiliad i’r Blaid gael sedd ychwanegol yn yr etholiad ar ddydd Iau.

Yn y nos roeddwn i mewn digwyddiad Transition Llambed. Roedd dros hanner cant o bobl wedi dod i weld ffilm The Age of Stupid, sy’n edrych ar y newid yn yr hinsawdd. Roedd y ffilm yn drawiadol iawn, yn edrych yn ol ar y presennol o’r syfodol a gofyn pam wnaethom ni dim byd? Roedd yn wahanol iawn i ffilm Al Gore, An Inconvenient Truth, llawer iawn llai cadarnhaol a ddim yn cynnig llawer o atebion. Ta beth, cododd nifer o bynciau pwysig iawn.

Ar ol y ffilm, roedd Elin Jones AC, a finnau ar banel ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Doeddwn i ddim wedi cael y cwestiynau o flaen llaw, ac wrth gwrs dych chi wastad yn meddwl am ateb gwell i gwestwn rhyw hanner awr yn ddiweddarach! Gofynnodd un person pryd bydd gwleidyddion yn dechrau gweithredu o ddifri, ac un arall beth oedd eisiau newid yn y system er mwyn wneud y newidiadau sydd angen. Sonias am y bin ailgylchu a’r ffaith ei fod wedi cymryd 18 mis hyd nawr fel enghraifft o’r inertia yn y system, a soniodd Elin am problemau gwleidyddion yn cefnogi mesyrau maen nhw’n credu sy’n hanfodol lle maent yn amhoblogaidd. Rhaid inni gael ein hethol tro nesaf!

Roedd trafodaeth ar y system cynllunio gyda rhai yn meddwl dylid dymchwel y drefniadau presennol sy’n galluogi trigolion lleol stopio datblygiadau, mabwysiadau “war footing” a rhoi mwy o ryddid i lywodraeth wneud beth sydd angen yn brydlon. Siaradoedd Elise Dafis ar bwysigrwydd systemau democrataidd, ac Elin ar goblygiadau negyddol cyflymu’r broses cynllunio.  Aeth y drafodaeth ymlaen am tua tri chwarter awr, ac yn gorffen gyda fi ac Elin yn dwued beth faswn ni’n newid mewn byd delfrydol i amddiffyn yr amgylchedd. Meddwl, siopa a gweithredu yn lleol oedd ateb Elin, gyda finnau yn mynd am addysg er mwyn cael pawb i sylweddoli pa mor bwysig mae’r pwnc, a phwyso ar gymdogion, llywodraeth a busnesau i wneud y newidiadau sydd angen.

Dw i ddim wedi bod ar banel o’r fath o’r blaen, ac roedd yn brofiad diddorol. Wrth gwrs, mae’n wahanol i sesiwn hawl i holi arferol gan fod pawn yn y gynulleidfa yn rhannu’r un barn i ryw raddau, ond roedd yn sesiwn diddorol a defnyddiol. Hoffwn i ddiolch i Transition Llambed am y cyfle i gyfrannu.

The Food Festival goes online

I spend Sunday morning a few weeks ago making up this new wesbite for the Lampeter Food Festival, but wanted to test it a bit before promoting it. It’s a bit sparse at the moment but more information will be added as time goes on. We also received notification that the Welsh Assembly Government has agreed to our grant application and will provide funding for the next 2 years. Very good news indeed!

Newyddion Cyfarfod Mis Mai

Roeddwn ni yn ol yn Neuadd yr Eglwys am y cyfarfod nos Iau gyda Selwyn Walters yn y gadair. Roeddwn i mewn sedd gwahanol fel Dirprwy Maer a chyn y cyfarfod esboniodd Selwyn ei ffordd o weithio. Er bod llawer o bethau ar yr agenda, rhedodd y cyfarfod yn esmwyth ac roeddwn ni allan erbyn 10 o’r gloch.
Shelter Cymru
Am 7 o’r gloch cawsom ni gyflwyniad gan Michelle Rosser, Swyddog Prosiect Gwerth Gwybodaeth Shelter Cymru. Nod y cynllun yw galluogi mynediad i wybodaeth allweddol i bobl sy’n byw yn y cefn gwlad, felly cawsom ni becyn sy’n cynnwys llawer o wybodaeth i helpu pobl sydd mewn trafferth ariannol neu yn gwynebu colli cartref. Gellir lawrllwytho gopi o’r pecyn yma. Yn yr hinsawdd economaidd presenol mae mwy a mwy o bobl yn gwynebu trafferthion o’r fath. Yn 2008, ailfeddiannwyd tua 45,000 o dai ond eleni, mae disgwyl i’r niferoedd godi i 75,000. Ar y llaw arall mae tua 80,000 o bobl yng Nghymru ar restrau aros tra bod 25,000 o dai yn wag. Ar ol y cyflwyniad cawsom ni drafodaeth ar wasanaeth Shelter Cymru yn Llambed, gyda’r addweid i gael mwy o wybodaeth ar y sefyllfa.

Cae Maesyderi
Penderfynnodd sefydlu is-bwyllgor y cyngor (gyda cynrychiolwyr y clybiau chwaraeon a thrigolion lleol) er mwyn rhedeg y cae o ddydd i ddydd. Aelodaeth y pwyllgor yw Selwyn Walters, finnau, Derek Wilson, Chris Thomas, Cecilia Barton, Hag Harris, Ivor Williams, 2 o Gymdeithas Preselwyr Maesyderi, un cynrychiolydd lleol arall, a chynrychiolydd y clybiau chwaraeon, a bydd y pwyllgor yn cwrdd am y tro cyntaf ar nos Fercher.

Biniau Ailgylchu
Mae’r saga hyn yn mynd ymlaen ac ymlaen. Ym mis Chwefror 2008, cynigais gael 2 bin ailgylchu yn y dref (un ar Sgwar Harford ac un ym Mharc yr Orsedd). Er bod llawer o ohebiaeth, ymchwil a thafodaeth wedi bod gyda Ceredigion rydym dal heb benderfynnu i lleoliad y biniau. Dwi’n teimlo’n rhwystredig iawn am y broses ond dwi’n mynd i weithio gyda Cyng. Derek Wilson i geisio dod ag adroddiad i’r cyfarfod nesaf yn y gobeithio gewn ni benderfyniad.

Parth Di-Alcohol
Rhywbeth arall sy’n cymryd oes i’w wireddu. Mae’r cais ar y cyd rhwng y Cyngor Tref a’r Heddlu wedi cyflwyno. Mae’r Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ar fin dechrau’r ymgynghoriad. Dw i dal ddim yn siwr os ydym wedi symud ymlaen o gwbl, ac roedd nifer o  aelodau eraill yr un mor rhwystredig. Rydym yn sylweddoli fod yn rhiad dilyn y broses yn iawn, ac mae amserlen yng nghlwm wrth y broses ond hoffwn ni weld rhyw fath o gynydd yn fuan. Felly, rydym wedi gofyn am amserlen arfaethedig y broses . Bore dydd Sadwrn pan roeddwn i’n canfasio ar stondyn stryd welais yr heddlu yn syumud rhywun o’r sgwar. Codwyd y pwnc gyda fi mwy nag unwaith.

Hysbysfwrdd
Pan trafodwyd y hysbysfwrdd nifer o fisoedd yn ol, penderfynnodd y cyngor i’w adael ar agor gyda rhyddid i bawb postio wybodaeth. Ar y pryd, roeddwn i yn erbyn y cynnig gan na fyddai unrhyw reolaeth dros y fath o bosteri a ddangoswyd. Yn y cyfamser mae nifer o bosteri wedi tynnu lawr gan gynnwys wybodaeth cysylltu ein Haelod Cynulliad a gwybodaeth am Etholiad Ewrop. Bydd y clerc yn monitro’r hysbysfwrdd am y mis nesaf cyn penderfynnu a oes angen cloi yr hysbysfwrdd eto. Dwi wir yn gobeithio byddwn ni.

Sainsbury’s
Gan fod amserlen y cais cynllunio yn dyn, edrychodd y Maer a finnau ar y cais. Does dim newid mawr, ond bydd dau estyniad bach yn cael eu codi ar flaen yr adeilad.

Janet Evans
Enwebwyd Janet Evans gan y cyngor am wobr CAVO am ei holl waith dros y blynyddodd ar ran y gymuned gyda’r Cambrian News a’r Urdd. Penderfynnwyd rhoi darian y dref iddi.

May Meeting News

Shelter Cymru

At 7 o’clock we had a presentation from Michelle Rosser, Information Matters Project Officer for Shelter Cymru. The aim of the project is the make access to information easier to people who live in rural areas, and to that end information packs were distributed to the councillors. A pack can be downloaded here. They contain a large amount of information useful to people who are in financial trouble or who face losing their homes. In the present economic climate more and more people are facing these troubles. In 2008 around 45,000 homes were repossessed but this year the total is expected to rise to 75,000. There are 80,000 people on waiting lists for homes in Wales while there are 25,000 empty homes here. After the presentation Hag asked about the Shelter Cymru surgery in Lampeter. The service ceased a while ago but we expressed our desire to see it re-started.

Maesyderi Field

The council decided to establish a sub-committee (with representatives of the sports clubs and local residents) to manage the field from day to day. The members are Selwyn Walters, myself, Cecilia Barton, Derek Wilson, Chris Thomas, Hag Harris, Ivor Williams, 2 reps. from Maesyderi Residents Association, one other local resident and a representative from the sports clubs. The sub-committee will meet on Wednesday.

Recycling Bins

The bin saga goes on and on. In February 2008 I proposed that the council should buy 2 recycling bins for the town centre (Harford Square and Parc yr Orsedd). There has been endless discussion, a lot of correspondence, research and meetings and we still don’t have a decision. I can’t express how frustrating I find this, but the only answer is to keep pressing on. I’m going to work with Cllr. Derek Wilson over the next few weeks to bring a full report to the next meeting in the hope that at last the decision will be made.

No-Alcohol Zone

This is another issue that is taking an age to progress. The joint application from the police and the Town Council has been submitted, but the most recent correspondence from the Community Safety Partnership simply says that they are preparing to go to consultation. Whether this is progress of nothing has happened I don’t know but there was general unhappiness about the slow pace of progress. We understand that a process has to be undertaken and that there are set timescales for consultations but we really would like to see some progress. We’ve asked for a timetable as well as an update for next month so at least we will have an idea how long the process has left to run.

Noticeboard

A few months ago the council decided to maintain the town noticeboard on an open access basis following vandalism of the doors. At the time I was against a free for all as I was concerned about posters being removed or unsuitable posters being put up. The clerk reported that this was indeed the case with posters giving information on our Assembly Member and the European Elections have indeed been removed. The situation will be monitored for one month and a decision made then.

Sainsbury’s

As the time allowed to respond to the planning application was short, the Selwyn Walters and I looked over the plans and agreed that there was no objection. Sainsbury plans to add two small extensions to the front of the building.

Janet Evans

The council nominated Janet Evans for a CAVO award at the last meeting in recognition of her work with the Urdd and the Cambrian News. The nomination was successful and the council also resolved to award Janet with a Town Shield.

Lwfans y Maer

Mae costau gwleidyddion yn bwnc llosg ar hyn o bryd. Mae’r rhai o’r straeon sydd wedi dod allan o San Steffan wedi bod yn anghredadwy, ac yn ol pob tebyg byddan nhw’n arwain at rhai newidiadau arwynebol sy’n gadael yr ystyriaethau pwysicaf heb eu datrys. Mae costau Aelodau Seneddol yn bwnc pwysig ond un bydd yn anodd i’w datrys yn yr hinsawdd presennol. Dyna pan mae’n amser anffodus i Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan drafod lwfans y Maer

I fod yn glir, nid yw lwfans y Maer yr un peth a chostau Aelodau Seneddol. Nid yw maer y dref yn dod yn gyfoethog ar ei g/chostau – does dim ail gartref. Mae’r lwfans yn talu costau digwyddiadau fel Seremoni Urddo’r Maer a chyfranniadau’r Maer mewn achosion codi arian yn ystod y flwyddyn. Efallai bydd rhai yn credu nad yw hyn y ddefnydd iawn o arian cyhoeddus ond nid yw’n deg ar y Maer ddisgwyl iddo/i dalu costau fod yn Faer o boced ei hunan. Hyd yn oed gyda’r lwfans mae nifer o gyn-Faeri’r dref wedi talu rhai costau eu hunain. Mae’n bwysig fod y cost ddim yn rhwystro rhywun gweithgar a galluog o fod yn Faer y dref.

Roedd y drafodaeth yn y cyfarfod diwethaf ambyti a ddylai godi lwfans y Maer yn ol lefel chwyddiant Mis Ionawr (pan osodwyd y gyllideb) neu cadw ar yr un lefel gan fod chwyddiant wedi gostwng yn sylweddol. Roedd ansicrwydd a oedd y cyngor wedi codi pob cyllideb 3% ym mis Ionawr neu wedi osod y gyllideb i ganiatai codi cyllidebau unigol os bydd angen. Gallwch ddarllen yr adroddiad fan hyn. Gofynnwyd y cwestwn a oedd y lwfans wedi codi yn ol chwyddiant o’r blaen. wel dyma’r ffigyrau dros y 7 mlynedd diwethaf

2001/2 £2,400

2002/3 £2,400

2003/4 £2,400

2004/5 £2,400

2005/6 £2,400

2006/7 £2,470

2007/8 £2,382 (Gwasanaethodd y Maer am 11 mis)

Felly, ble mae hyn i gyd yn ein gadael ni? Mae’r lwfans wedi codi dros y 2 flynedd diewethaf ond heb godi cyn hynny. Mae hyn yn olygu fod werth y lwfans wedi gostwng, a ni ellir pathau fel hyn am byth. Ond yn yr hinsawdd economaidd presennol faswn i’n cefnogi dim newid. Dwi’n credu dylid beidio a mynd dros hen benderfyniadau tro ar ol tro ond pam mae’r ffeithiau yn newid, dwi’n dilyn John Maynard Keynes

When the facts change, I change my mind. What do you do, sir?

Roedd yn eitha agos ati ar ran polisi economaidd, ac roedd gyda fe gred da ar gysondeb.

The Mayor’s Expenses

Expenses for politicians are a bit of a toxic topic at the moment. Some of the stories that have come out of Westminster over the past few weeks have been shocking, which will probably lead to a few knee-jerk changes which will leave many of the real issues untouched. MP’s expenses are an important issue and it’s going to be difficult to bring in an appropriate new system in the current climate. Which make it an unfortunate time for Lampeter Town Council to be discussing the Mayor’s annual allowance.

To be clear, we’re not talking about the same kind of thing at all. The mayor of Lampeter doens’t get rich at the taxpayers’ expense, he (or she) doesn’t get a second home and last time I looked there were no duck islands or moats being cleaned (although Derek does wonderful Tudor beams). The allowance is to pay for civic functions such as the Mayor Making Reception (which many local organisations are invited to), and for the Mayor to make a contribution when he is invited to fundraising events. Some may argue that this is not an appropriate use of public money however all the past mayors who have spoken to me about this say that they paid many costs out of their own pockets and being Mayor cost them financially. It is important that the financial cost does not bar anyone from being mayor, and it would be unfair to expect anyone to give up more of their time and money than many hardworking people already do to serve their community.

The discussion in the last council meeting was about whether the Mayor’s Allowance should be increased in line with the inflation rate when the budget was set, or stay remain at last year’s level as the inflation rate has now fallen. The uncertainty was over whether in the January Budget Meeting the council had decided to increase all budgets by 3% or had simply decided to allow for costs rising at that rate. You can see the budget report here.

There was discussion as to whether the Mayoral Allowance had risen in line with inflation in the past. For the sake of comparison here are the paid out for the Mayoral Allowance over the last 7 years.

2001/2 £2,400

2002/3 £2,400

2003/4 £2,400

2004/5 £2,400

2005/6 £2,400

2006/7 £2,470

2007/8 £2,382 (Mayor only served 11 months)

So, where does thtat leave us? The Allowance has increased over the last 2 years, but remained static prior to that. That being the case, it has reduced in value since 2001/2 and we do need to bear that in mind. It cannot stay at that level forever, but given the current economic climate, this year I would vote for no change.I am a believer not going back over decisions that have already been taken – that only leads to endless circular discussions but I have changed my mind on this one.

When the facts change, I change my mind. What do you do, sir?

Not that there is anything wrong with that, John Maynard Keynes had the right attitude to consistency and economics!

Sefyll i fyny dros Gymru

Mae’m 12 diwrnod cyn etholiad Ewrop ac mae’r ymgyrch yn dawel o hyd. Erbyn hyn mae’r brif pleidiau wedi lansio eu maniffestos, gyda Plaid yn lansio ar Fai 14.

Mae pob un plaid wedi cofrestru 4 ymgeisydd er bod yn anhebygol iawn bydd 4 o un plaid yn cael eu ethol. O achos system etholiadol, ac o achos bod dim ond 4 o ASEau yn cynrychioli Cymru mae’n anhebygol bydd y pleidiau llai yn enill. Yn ol canlyniadau blaenorol bydd un sedd yr un gyda Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru – pwy sy’n cael sedd rhyf 4 yw’r cwestiwn. Mae Llafur mewn trafferth ac os maen nhw’n methu cael y nifer uchaf o bleidleisiau, amen nhw’n colli’r 4 sedd. Hyd yn oed os bydd Llafur yn ennill y nifer uchaf o bleidleisiau mae’n bosib bydd y 4 sedd yn mynd i blaid arall.
Dylai’r ymgyrch fod ambyti pwy sydd gyda’r polisiau gorau a pha ymgeiswyr sy’n gallu ein cynrychioli ni orau ym Mrwssel a Strasbourg. Mae taflen Llafur yn son llawer am beth mae llafur wedi cyflawni ond does dim un o’u ASEau o Gymru yn sefyll y tro hwn. Mae’r Cediwadwyr yn sefyll am “newid” ond mae 3 allan o’r 4 ymgeisydd yn byw tu allan i Gymru. Dyw hyn ddim byd i’w wneud a os ydynt yn “ddigon Cymreig” – does dim ots ‘da fi o ble mae;r ymgeiswyr yn dod – ond bydd yn anodd i rywun gynrychioli gwald yn Ewrop os nyd ydyn yn byw yno. Mae ymateb y Ceidwadwyr yn dangos bod nhw’n poeni am hyn. Mae taflenni UKIP a’r BNP yn canolbwyntio as ddweud “Na” i bobeth a dw i heb glywed unrhywbeth oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol

i gymharu a hyn i gyd mae gan Blaid cymru dau ymgeisydd profiadol. Mae Jill Evans ac Eurig Wyn wedo bod yn Aelodau Seneddol Ewropeaidd o’r blaen ac mae Ioan Bellin a Natasha Asghar, sydd hefyd ar y rhestr wedi bod yn ymgyrchu yn galed. Ar Fai 20, lansiodd y Blaid Addewid i Weithwyr yn TUC Cymru

Cryfhau’r Gyfarwyddeb Gweithwyr a Symudwyd i warantu hawliau cyfartal i weithwyr yn yr un gweithle.
Cyfarwyddeb Oriau Gwaith sy’n sicrhau iechyd a diogelwch pob gweithiwr
Fframwaith mwy effeithiol i hysbysu gweithwyr ac ymgynghori â hwy
Gweithredu’r Gyfarwyddeb Ansolfedd yn iawn i warchod pensiynau
Rhaglen newydd o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus i amddiffyn swyddi yn y sector cyhoeddus

Mae Maniffesto’r Blaid yn broffesiynol ac yn gadarnhaol. Dw i ddim am fynd trwy’r holl beth ond dyma rhai o’r brif bwyntiau

Dod Drwy’r Storm
Byddwn yn ymgyrchu am arian Ewropeaidd tuag at ddatblygu system gludiant cyhoeddus fodern i Gymru, gyda chysylltiadau rheilffordd cyflym a rhatach rhwng y de a’r gogledd, y canolbarth a’r gorllewin….Cred Plaid Cymru fod yn rhaid i gysylltu Cymru’r unfed ganrif ar hugain â chyfandir Ewrop fod yn flaenoriaeth yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, nid yn unig o ran darparu gwasanaethau trên cyflymder-uchel gwell, modern a thrydan ar draws Cymru gyfan, ond hefyd mewn mesurau newydd i helpu cwmnïau cludiant Cymreig i oroesi’r wasgfa conomaidd. Rhaid creu cysylltiadau cryf rhwng Cymru ac Ewrop, nid yn unig mewn trafnidiaeth, ond hefyd mewn technoleg. Yr ydym yn cefnogi argymhellion diweddar i wneud mynediad at fand eang yn oblygiad gwasanaeth cyffredinol, ac yr ydym eisiau gweld pob cymuned yng Nghymru yn gallu cyrchu cyflymderau band eang o 8Mbps o leiaf.

Pobl Cyn Elw
Byddwn yn cefnogi gwell amddiffyniad yn erbyn diswyddo neu erlid gweithwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithredu cyfreithlon; byddwn hefyd yn cefnogi gweithredu sy’n atal defnyddio gweithwyr asiantaeth yn lle gweithwyr sy’n streicio.

Gwarchod ein Dyfodol
Yr ydym wedi llwyr ymrwymo i sicrhau rheolaeth Gymreig dros ein hadnoddau ynni ac i greu Cronfa Gyfoeth Sofran – credwn i Gymru ddioddef camfanteisio yn y gorffennol a bod yn rhaid i ni atal hynny rhag digwydd eto.

Gweledigaeth Leol Gref
Cred Plaid Cymru fod Swyddfeydd Post yn wasanaeth hanfodol i’r gymdeithas ac yn hanfodol o ran llunio cymunedau cynaliadwy yng Nghymru…. Byddwn ni yn cefnogi adolygu’r rheolau cystadleuaeth, a thrwy hynny adael i’n gwasanaethau lleol gwerthfawr oroesi.

Yr ydym yn cefnogi diwygio modern a thymor hir ar y PAC sydd yn cydnabod cynhyrchu bwyd dan reolaeth amgylcheddol dda, cynnal cymunedau gwledig cynaliadwy, a safonau uchel o les anifeiliaid a rheoli ansawdd.

Gwell Byd
Fel Cenedl Fasnach Deg gyntaf y byd, rhaid i Gymru arwain yr alwad am Ewrop Fasnach Deg, gan wthio egwyddorion tegwch, cyfiawnder cymdeithasol a safonau amgylcheddol uchel.

Y darn pwysicaf yw’r addewid isod:

Rydym yn addo y byddwn yn wastad yn ymgyrchu dros Gymru – a holl bobl Cymru – yn Ewrop. Rydym yma i chi.

Os ydych chi’n cefnogi ymgeiswyr sy’n wir ddeall anghenion pobl cymru, gallwch cofrestru eich cefnogaeth fan hyn, a lawllwtho poster fan hyn.

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.